Mae gennym gyfle cyffrous i Reolwr Datblygu Busnes llawn amser i weithio gyda busnes addysg menter arloesol newydd. Mae 2B Enterprising yn creu ac yn darparu adnoddau datblygu sgiliau i ysgolion cynradd – gyda chefnogaeth busnesau lleol, er mwyn sicrhau ein bod yn creu’r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion uchelgeisiol, mentrus, hyderus a moesegol.
Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu busnes newydd drwy rannu buddion rhaglen Gwenyn Coed y Mêl gyda sefydliadau bach a mawr sy’n edrych ar fuddsoddi mewn cyfleoedd gwerthfawr ymgysylltu â’r gymuned.
Eich cyfrifoldebau:
- Datblygu llif busnes newydd i 2B Enterprising gan ddefnyddio gwahanol ddulliau estyn allan megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) cyfarfodydd wyneb yn wyneb, digwyddiadau rhwydweithio, rhwydweithiau cymdeithasol, galwadau diwahoddiad, cyfeiriadau ac ati.
- Rheoli llif gwerthiannau posibl, gan eu trosi’n refeniw yn unol â thargedau gwerthu.
- Hwyluso trosglwyddo trawsnewid o fusnesau sydd wedi’u cadarnhau yn bartneriaid i gydweithwyr yn y Tîm Gweithrediadau/Cyflwyno er mwyn iddyn nhw allu cysylltu’r busnes gydag Ysgolion Cynradd penodol.
- Adeiladu perthnasoedd cadarn gyda Phartneriaid Ymgysylltu Corfforaethol presennol drwy ddiweddariadau cymunedol a galwadau gwirio i annog ymgysylltu ac i sicrhau adnewyddu blynyddol.
- Cysylltu gyda’r Tîm Gweithrediadau i ganfod partneriaid addas ar gyfer yr Ysgolion Cynradd hynny sydd eisoes wedi cofrestru eu diddordeb yn ein rhaglenni.
- Cynyddu ymgysylltu gyda chymuned y busnes/yr ysgol drwy weithgaredd a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol.
- Cynrychioli 2B Enterprising yn gadarnhaol yn y gymuned fusnes.
- Cyflwyno adroddiadau gwerthiant, ystadegau ac adborth partneriaethau i’r Cyfarwyddwr Masnachol.
Cymwysterau a phrofiad:
- Profiad helaeth mewn amgylchedd Datblygu Busnesau – yn gweithio tuag at dargedau gwerthu/dangosyddion perfformiad allweddol.
- Agwedd gadarnhaol tuag at addysg ac ysbrydoli eraill.
- Yn ffynnu wrth weithio mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym.
- Trwydded yrru ddilys y DU.
Math o Swydd: Llawn amser (Llun-Gwener 9am-5pm)
Y Pecyn:
- Cyflog Sylfaenol: £30k y flwyddyn a chomisiwn yn seiliedig ar berfformiad
- Gliniadur cwmni
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol (ac eithrio Gwyliau Banc)
- Pensiwn y Gweithle
- Cynllun Cyfrannau Gweithwyr Dewisol
Gwneud cais: I wneud cais am y rôl hon, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam eich bod yn teimlo eich bod yn addas ar gyfer y rôl a beth fyddech chi’n ei gynnig i’r tîm.
Anfonwch e-bost gyda manylion at Jayne Brewer: Jayne@2benterprising.co.uk