Gweithgareddau am ddim

Gweithgareddau am ddim Adnoddau menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau

Lawrlwytho Adnoddau

Beth y mae gwyddonydd yn ei wneud
Defnyddiwch y fideos i ddysgu am yr hyn y mae gwyddonydd yn ei wneud, yna cwblhewch eich arbrawf gwyddonol eich hun gan ddefnyddio hylif lliwi bwyd a dŵr. Ceisiwch wneud patrymau a lliwiau gwahanol a byddwch yn greadigol gyda’ch dyluniadau..
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cwis bingo gwenyn
Lawrlwythwch ein cardiau Bingo Sïo Gwenyn. Anogwch y plant i fynd o amgylch y tŷ i ddod o hyd i’r eitemau ar eu cerdyn bingo. Pan fyddant wedi dod o hyd iddynt, ticiwch yr eitem ar eu cerdyn. Sylwch sawl un gallan nhw ei gasglu. Mae’r person cyntaf i gwblhau’r holl flychau yn ennill gwobr.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dod yn adolygydd ffilm
Penderfynwch ar ffilm i’w gwylio gyda’ch teulu cyfan, gofynnwch i’r plant gwblhau’r templed ac adolygu’r ffilm rydych chi’n penderfynu ei gwylio. Gofynnwch iddyn nhw esbonio llinell y stori, pwy oedd eu hoff gymeriad a beth oedd eu hoff ran.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dyfeisio rhywbeth newydd
Anogwch y plentyn i fod yn greadigol a chyfathrebu. Nid gwneud rhywbeth newydd o reidrwydd yw’r dasg hon, ond siarad am rywbeth y mae ganddynt ddiddordeb ynddo. Gofynnwch lawer o gwestiynau a brasluniwch eu syniadau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Ffrwydrad annisgwl
Gwyliwch fideo o arbrawf gwyddoniaeth. Dilynwch y dull a chrëwch eich arbrawf gwyddoniaeth eich hun gartref. Ymchwiliwch a dysgwch pam y ffrwydrodd y botel lemonêd a pha adwaith ddigwyddodd.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gêm tactegau
Mae’r gêm dacteg hon yn ymwneud â gwaith tîm, cyfathrebu a chymryd risg. Gweithiwch mewn timau bach a dychmygwch eich bod yn un o deulu’r Gwenyn yn casglu’r paill. Eich nod yw gollwng eich peli o baill i mewn i fwcedi gwahanol. Bydd gennych 5 cyfle i daflu’r bêl i un o’r 3 bwced. Mae gan bob bwced werth pwynt gwahanol. Sylwch faint o bwyntiau rydych chi’n eu casglu a phenderfynu pa dactegau y byddwch chi’n eu defnyddio.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwerthu hen degan
Os yw’ch plant wedi tyfu allan o rai teganau anogwch nhw i feddwl am ffyrdd o’u gwerthu i wneud arian ar gyfer teganau newydd, neu eu rhoi i rywun nad oes ganddo unrhyw deganau. Ymchwiliwch i’r ffyrdd y gallent werthu eu teganau. Gallech hyd yn oed gynnal eich arwerthiant teganau eich hun gyda theulu a ffrindiau.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwneud gwesty gwenyn
Defnyddiwch y syniadau hyn i greu, dylunio a gwneud gwenyn eich hun. Byddwch yn greadigol a defnyddiwch beth bynnag sydd gennych gartref. Ymchwiliwch i bwysigrwydd achub y gwenyn a’r amodau gorau iddynt fyw ynddynt.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau