Llyfr

Llyfr Adnoddau menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau

Lawrlwytho Adnoddau

Antur Fawr Gwyn Gwenyn – Casglu Adnoddau

Wrth i Gwyn Gwenynen aros i’w adain wella, mae’n helpu’r Frenhines Dilia i redeg y cwch. Dywed y Frenhines wrth Gwyn fod y cwch yn tyfu a sut y byddai angen iddyn nhw heidio yn fuan a dod o hyd i gartref newydd. Mae’r Frenhines Dilia’n ymddiried yn Gwyn ac mae’n gofyn am ei gymorth i arwain ei haid ar antur newydd. Dydy Gwyn ddim yn siŵr ei fod yn ddigon da i wneud rhywbeth mor bwysig ac mae’n gofyn am gyngor gan ei deulu sy’n ei atgoffa pa mor bwysig yw bod â hunan-gred ac i arddangos sgiliau arwain i helpu i wneud gwahaniaeth.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Antur Fawr Gwyn Gwenyn – Llyfr Stori

Mae Gwyn Gwenyn wedi gwneud ffrindiau gyda’r Frenhines Dilia yng Nghoed y Mêl wrth i’w adain
wella. Mae’r Frenhines Dilia yn ymddiried yn Gwyn ac yn rhannu ei straeon gydag o. Mae’r Frenhines Dilia yn gofyn i Gwyn am ei help i arwain ei haid hi i gartref newydd. Dydi Gwyn ddim yn siŵr os ydi’r adain yn ddigon cryf ar gyfer gwaith mor arbennig, ac mae o’n poeni sut fydd ei fywyd yn newid. Mae teulu a ffrindiau Gwyn yn ei atgoffa pa mor arbennig ydi o, a pham y dewiswyd o ar gyfer y swydd bwysig hon.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cludiad y Lindys – Casglu Adnoddau

Mae Gwenan a’i chwiorydd Gwen a Gwenlli yn dylunio trolïau bychain er mwyn helpu’r lindys i gario’r llythyron i’r ysbyty bob dydd.

Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Dawns Siglo Gwenan Gwenynen – Casglu Adnoddau

Mae Gwen Gwenynen yn wenynen fach garedig, gofalgar a mentrus. Mae hi wrth ei bodd yn hedfan gyda’i ffrindiau a chasglu paill gan y blodau hardd. Un diwrnod mae hi’n deffro ac yn gweld bod y gwenyn yng Nghwch Coed y Mêl wedi mynd yn sâl ar ôl yfed dŵr brwnt o’r afon leol. Mae Gwen Gwenynen yn llawn egni ac yn awyddus i ddod o hyd i gyflenwad o ddŵr glân da ar gyfer y gwenyn yn y cwch. Mae hi’n hedfan i fynd ar ei hantur ac yn cwrdd â ffrindiau newydd ar ei thaith. Mae Gwen yn dysgu bod partneriaethau a chyfeillgarwch yn bwysig iawn ac wrth weithio gyda’ch gilydd gallwch chi gyflawni llawer mwy na gweithio ar eich pen eich hun.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dawns Siglo Gwenan Gwenynen – Llyfr Stori

Mae Gwenan Gwenyn yn deffro i ganfod fod ei ffrindiau, y gwenyn yng nghwch Coed y Mêl, wedi mynd yn sâl ar ôl yfed dŵr budr. Mae Gwenan yn llawn egni, ac yn mynd i chwilio am gyflenwad o ddŵr glân ffres i’r cwch. Mae’n hedfan i ffwrdd ar ei hantur, ac yn cyfarfod ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae Gwenan yn dysgu bod partneriaid a ffrindiau yn bwysig, ac wrth gydweithio, gallwch gyflawni llawer mwy na gweithio ar eich pen eich hun.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwefr y Gwenyn – Casglu Adnoddau

Mae Gwen a Gwenlli yn efeilliaid unfath sydd wrth eu boddau’n mynd ar anturiaethau gyda’i gilydd.
Maen nhw’n penderfynu cynnal mabolgampau Coed y Mêl yn flynyddol gyda’r holl greaduriaid bach yn helpu i’w trefnu. Mae Gwenlli’n benderfynol o wella ei sgiliau hedfan a dod mor gyflym â’i chwaer Gwen ac efallai hyd yn oed ei churo yn y ras hedfan. Mae Gwenlli’n gweithio’n galed i ymarfer hedfan bob munud sbâr ac mae Gwen yn treulio ei hamser yn trefnu’r digwyddiad ac yn bod yn greadigol. Fydd y digwyddiad yn llwyddiannus?

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwefr y Gwenyn – Llyfr Stori

Stori ydi hon am y ffordd y gweithiodd yr efeilliaid Gwen a Gwenlli gyda’i gilydd i gael hwyl wrth geisio
byw’n iach. Mae’r efeilliaid yn cychwyn gweithgaredd cadw’n heini newydd sbon, ac yn darganfod ffordd
wreiddiol o wneud arian. Mae hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo’n fentrus dros ben.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Gwenan y Wenynen Ddyfeisgar – Casglu Adnoddau

Mae Gwenan eisiau ei helpu ac yn mynd i’w gweithdy i greu dyfais a fydd yn helpu Sioni Mawr i neidio’n uchel yn y gwair hir i gadw rheolaeth ar y ceiliogod rhedyn ifainc.

Gweld adnodd
Ages 7 & 8

Lawrlwytho Adnoddau

1 2 3