We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more
Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.
–
neu
eich ysgol i lawrlwytho adnoddau
Mae Gwyn yn derbyn her y Frenhines Dilia i arwain y gwenyn at gartref newydd. Mae ganddo benderfyniadau mawr i’w gwneud gyda help ei deulu a’i ffrindiau.
Wrth i Gwyn aros i’w adain wella, mae’n dod yn gyfaill i’r Frenhines Dilia – Brenhines cwch gwenyn Coed y Mêl. Mae’n dweud wrth Gwyn bod y cwch gwenyn yn tyfu ac yn fuan bydd angen dod o hyd i gartref newydd, gan wneud lle i Frenhines newydd a haid arall o wenyn gweithgar. Mae’r Frenhines yn ymddiried yn Gwyn ac yn gofyn iddo ei helpu i arwain yr haid at gartref newydd. Nid yw Gwyn yn sicr a yw’n ddigon cryf ar gyfer swydd mor arbennig ac mae’n poeni sut y bydd ei fywyd yn newid os bydd yn symud i ffwrdd o’i deulu. Mae teulu a ffrindiau Gwyn yn ei atgoffa pa mor arbennig ydyw a phaham y dewisodd Y Frenhines ef ar gyfer swydd mor bwysig. Mae Gwyn yn cael ei atgoffa o bwysigrwydd hunan gred ac arddangos sgiliau arwain tra’n helpu i wneud gwahaniaeth mawr.
Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.
Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.
Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.
Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.