Mae’r gêm dacteg hon yn ymwneud â gwaith tîm, cyfathrebu a chymryd risg. Gweithiwch mewn timau bach a dychmygwch eich bod yn un o deulu’r Gwenyn yn casglu’r paill. Eich nod yw gollwng eich peli o baill i mewn i fwcedi gwahanol. Bydd gennych 5 cyfle i daflu’r bêl i un o’r 3 bwced. Mae gan bob bwced werth pwynt gwahanol. Sylwch faint o bwyntiau rydych chi’n eu casglu a phenderfynu pa dactegau y byddwch chi’n eu defnyddio.