Mae nyth o gymdogion swnllyd yn symud i mewn ac yn tarfu ar heddwch cwch gwenyn Coed y Mêl. Mae’r gwenyn yn cael eu profi wrth iddyn nhw weithio gyda’i gilydd i ddatrys y broblem sy’n mynd yn fwy o faint ac yn fwy swnllyd bob munud! Mae creadigedd y gwenyn yn eu helpu i edrych ar ôl gwenynen sydd wedi anafu, ac maen nhw’n defnyddio cynnyrch cartref arloesol i wneud iddi deimlo’n well a mendio ei hadain. Mae’r gwenyn yn delio â sawl sefyllfa anodd, ac yn y diwedd yn dod â chymuned y gwenyn adre gyda’i gilydd yn ddiogel.