We are looking to connect businesses with primary schools… Find out more
Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.
–
neu
eich ysgol i lawrlwytho adnoddau
Mae Guto’n helpu ei fam i ddod o hyd i leoliad newydd ar gyfer eu hysgol a ddifrodwyd yn ddiweddar. Mae Guto’n mwynhau ei antur i ddarganfod y lle perffaith ac mae pawb yn Nghoed y Mêl yn falch iawn ohono.
Mae Guto a’i fam yn sylweddoli bod yr ysgol wedi cael ei ddifrodi gan beiriannau torri gwair y ffermwyr. Mae Glenda yn athrawes yn yr ysgol ac mae’n gofyn i Guto ei helpu i ddod o hyd i leoliad newydd ar gyfer yr ysgol. Mae Guto’n awyddus i helpu ac yn meddwl am nodweddion pwysicaf ysgol newydd. Mae’n mentro i ffwrdd o’r cwch gwenyn i ddod o hyd i’r lle perffaith gan obeithio gwneud ei fam yn falch. Wrth ddychwelyd mae’n rhannu straeon am ei anturiaethau gyda’r cwch gwenyn cyfan. Mae Guto’n ysbrydoli’r gwenyn eraill i ddatrys problemau ac i fod yn benderfynol a theimla bod yr holl antur wedi bod yn werth chweil.
Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.
Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.
Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.
Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.