Mae Guto a’i fam Glenda yn canfod fod peiriant torri gwrych wedi gwneud difrod i Ysgol Coed y Mêl. Mae Glenda’n dysgu yno, ac mae’n gofyn i Guto i’w helpu gyda gwaith pwysig iawn – dod o hyd i le i’r ysgol
wenyn newydd. Mae antur Guto yn ei arwain o’r cwch gwenyn allan i’r wlad. Wedi iddo ddod yn ôl, mae’n adrodd hanes ei anturiaethau wrth holl wenyn y cwch sydd wedi dod i wrando arno. Mae Guto’n ysbrydoli’r gwenyn eraill, ac yn sylweddoli bod yr anturiaethau i gyd wedi ei ysbrydoli o hefyd.