Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Gwenyn Coed y Mêl

Mae’r teulu o wenyn yn cwrdd â’u cyd-drigolion yn Neuadd Dref Coed y Mêl ac yn mynd ati i rwydweithio.
Mae’r teulu yn byw mewn cwch gwenyn o dan goeden afalau mewn cae lliwgar o flodau gwyllt a phetalau melys. Maent yn rhan o gymuned o greaduriaid sy’n byw ac yn gweithio gyda’i gilydd i greu mêl blasus, diferol. Cawn ein cyflwyno i Glenda a Gwilym a’u plant Gwenan, Guto, Gwen a Gwenlli yr efeilliaid a Ger bach. Mae’r teulu’n mynd ar daith i neuadd y dref lle maen nhw’n cwrdd â chreaduriaid newydd megis sioncod y gwair, lindys, buchod coch cwta, a gweision y neidr. Maent yn sylweddoli bod y creaduriaid eraill yn debyg iddynt; er eu bod yn edrych yn wahanol, mae ganddynt galonnau mawr ac maen nhw’n garedig ac yn gariadus. Maen nhw’n dysgu sgiliau i helpu i gyflwyno eu hunain ac mae Gwilym a Glenda yn gwneud ychydig o rwydweithio sydd yn wych i’w busnes!
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Gwenyn Coed y Mêl Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Trefnu bwystfilod bychain
Mae’r cacwn yn byw gyda phob math o wahanol greaduriaid yng nghymuned Coed y Mêl. Dysgwch am wahanol fathau o greaduriaid, sut i’w hadnabod a sut i’w catogereiddio.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Ymchwil baneri
Defnyddiwch y templed hwn i ddysgu am faneri gwledydd. Anogwch bob plentyn i wethio’n annibynnol i ymchwilio i bob gwlad a lliwio baneri.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Ysgrifennu cardiau her
Lawrlwythwch ein 10 cerdyn her ysgrifennu. Defnyddiwch y rhain i ysbrydoli eich plant i fod yn greadigol, defnyddio eu sgiliau ysgrifennu a’u dychymyg.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

1 5 6 7

Login to your account