Rydych chi wedi allgofnodi ar hyn o bryd.

neu

eich ysgol i lawrlwytho adnoddau

Sgarmes y Cacwn

Mae’r gwenyn yn cydweithio er mwyn goresgyn aflonyddwch yng Nghoed y Mêl a achosir gan nyth o gymdogion swnllyd, cas. Gwaith tîm ar ei orau!
Mae’r cwch gwenyn yn cael ei aflonyddu pan fo nyth cacwn anfoesgar ac anghwrtais yn symud i’r ardal ac yn dechrau bwlio a dwyn mêl. Mae’n rhaid i’r gwenyn weithio gyda’i gilydd i ddatrys y broblem wrth i’r sefyllfa waethygu. Mae Gwyn yn cael ei anafu wrth achub Ger bach oddi wrth y cacwn cas, felly mae’r gwenyn eraill yn gwneud y defnydd gorau o’u hadnoddau eu hunain i’w helpu a gwella’i adain. Mae’r gwenyn yn wynebu sawl sefyllfa anodd yn y stori hon ond yn y pen draw maen nhw’n dod â’r gymuned o wenyn adref yn ddiogel at ei gilydd.
Gweithgareddau

Gweithgaredd i ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd – rhoi’r dysgu o lyfrau Gwenyn Coed y Mêl a’r adnoddau addysgu atodol ar waith.

Cynlluniau gwersi

Cynllun manwl i gynorthwyo athrawon i gyflwyno gwers sy’n ymroddedig i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd. Gan dynnu sylw at feysydd dysgu a sgiliau allweddol a astudiwyd, bydd y canllaw gwersi hwn yn nodi’r adnoddau priodol sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau a hefyd opsiynau gwahaniaethu ar gyfer galluoedd amrywiol.

Cyflwyniadau

Cyflwyniad PowerPoint i gefnogi’r ddealltwriaeth o themâu amrywiol a astudiwyd yn llyfrau Gwenyn Coed y Mêl ac atgyfnerthu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd.

Opsiynau lawrlwytho

Ar gyfer lawrlwytho diderfyn
a chofrestrmynediad i dderbyn gwybodaeth am Wenyn Coed y Mêl.

Sgarmes y Cacwn Adnoddau Menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Llyfrau

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

Beth sy’n gwneud ffrind da
Mae’r cyflwyniad hwn yn amlinellu beth sy’n gwneud ffrind da. Amlygwch y syniadau a’r rhinweddau sydd eu hangen arnoch i fod yn ffrind caredig a chariadus. Defnyddiwch y cyflwyniad hwn i gyflwyno her dwylo cyfeillgar yn ogystal â hel syniadau cyfeillgarwch.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Beth sy’n gwneud tîm da
Ar ôl cwblhau’r daflen gweithgarwch, sylwch pa rai o’r sgiliau a ddewisodd y plant fel y rhai pwysicaf. Defnyddiwch y 6 tasg yn y cyflwyniad i herio’r plant i roi’r sgiliau hwn ar brawf. Sylwch a allant ddeall y sgiliau a ysgrifennwyd ganddynt a’u trosglwyddo i fod yn Dîm Gorau bywyd go iawn!
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Beth y mae gwyddonydd yn ei wneud
Defnyddiwch y fideos i ddysgu am yr hyn y mae gwyddonydd yn ei wneud, yna cwblhewch eich arbrawf gwyddonol eich hun gan ddefnyddio hylif lliwi bwyd a dŵr. Ceisiwch wneud patrymau a lliwiau gwahanol a byddwch yn greadigol gyda’ch dyluniadau..
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Bod yn ddewr
Defnyddiwch y templed i annog i plant feddwl am adeg pan oedden nhw’n ddewr, sut gwnaeth hyn iddyn nhw deimlo, a thynnu llun ohonyn nhw’n ddewr.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Byd bendigedig gwenyn
Defnyddiwch y cyflwyniad i gyflwyno’r gwahanol fathau o wenyn. Dysgwch rai ffeithiau gwenyn diddorol rhyfeddol ac ysbrydolwch y plant i ddysgu mwy am y gwenyn mêl.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Can dyfrio cyfeillgarwch
Gan ddefnyddio’r templedi caniau dyfrio gall y plant ysgrifennu’r holl rinweddau y maen nhw’n teimlo fyddai’n gwneud ffrind da.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cardiau senario cyfeillgarwch
Mewn grwpiau bach gallu cymysg bydd plant yn cael y dasg o ddarllen rhai senarios cyfeillgarwch a thrafod atebion posib i’r problemau gan roi syniadau lle gallent fod wedi gwneud rhywbeth gwahanol i ddangos beth yw bod yn ffrind da.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Cwis bingo gwenyn
Lawrlwythwch ein cardiau Bingo Sïo Gwenyn. Anogwch y plant i fynd o amgylch y tŷ i ddod o hyd i’r eitemau ar eu cerdyn bingo. Pan fyddant wedi dod o hyd iddynt, ticiwch yr eitem ar eu cerdyn. Sylwch sawl un gallan nhw ei gasglu. Mae’r person cyntaf i gwblhau’r holl flychau yn ennill gwobr.
Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6

Lawrlwytho Adnoddau Llyfrau

1 2 3 9

Login to your account