Arweinydd

Arweinydd Adnoddau menter

Archwiliwch yr adnoddau gan ddefnyddio’r amryw gategorïau yn dibynnu are eich thema neu’ch deilliannau dysgu dewisol. Gadewch yr hidlydd categori ar ‘POPETH’ os nad oes gennych ddewis penodol neu os hoffech ehangu’r dewis o adnoddau.

Hidlo Adnoddau Sgiliau

Lawrlwytho Adnoddau Sgiliau

Cysylltu’r Dulliau Talu
Defnyddio'r cardiau dulliau talu i gysylltu â'r disgrifiadau o'r ffyrdd gwahanol rydyn ni'n defnyddio i dalu am bethau.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Dawns Siglo Gwenan Gwenynen – Casglu Adnoddau

Mae Gwen Gwenynen yn wenynen fach garedig, gofalgar a mentrus. Mae hi wrth ei bodd yn hedfan gyda’i ffrindiau a chasglu paill gan y blodau hardd. Un diwrnod mae hi’n deffro ac yn gweld bod y gwenyn yng Nghwch Coed y Mêl wedi mynd yn sâl ar ôl yfed dŵr brwnt o’r afon leol. Mae Gwen Gwenynen yn llawn egni ac yn awyddus i ddod o hyd i gyflenwad o ddŵr glân da ar gyfer y gwenyn yn y cwch. Mae hi’n hedfan i fynd ar ei hantur ac yn cwrdd â ffrindiau newydd ar ei thaith. Mae Gwen yn dysgu bod partneriaethau a chyfeillgarwch yn bwysig iawn ac wrth weithio gyda’ch gilydd gallwch chi gyflawni llawer mwy na gweithio ar eich pen eich hun.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Dawns Siglo Gwenan Gwenynen – Llyfr Stori

Mae Gwenan Gwenyn yn deffro i ganfod fod ei ffrindiau, y gwenyn yng nghwch Coed y Mêl, wedi mynd yn sâl ar ôl yfed dŵr budr. Mae Gwenan yn llawn egni, ac yn mynd i chwilio am gyflenwad o ddŵr glân ffres i’r cwch. Mae’n hedfan i ffwrdd ar ei hantur, ac yn cyfarfod ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae Gwenan yn dysgu bod partneriaid a ffrindiau yn bwysig, ac wrth gydweithio, gallwch gyflawni llawer mwy na gweithio ar eich pen eich hun.

Gweld adnodd
Oesoedd 5 & 6
Diogelu Buchod Coch Cwta
Defnyddio'r cyflwyniad i osod yr her ddylunio i'r disgyblion, gan fynd trwy 6 cam y broses ddylunio.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Diogelu Buchod Coch Cwta
Gosod her i'r disgyblion i feddwl am ddyfais i ganiatáu Ladi Goch i gerdded gyda'i phlant i'r ysgol yn ddiogel.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Diogelwch gyda Moddion
Disgyblion i ddatrys problemau mewn grwpiau yn seiliedig ar senarios meddygol a rhannu eu barn.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Dreigiau Ifainc
Defnyddio'r cyflwyniad i wylio clipiau o 'Dragon's Den' ac ateb cwestiynau a fydd yn arwain at benderfynu os fyddant yn buddsoddi neu beidio.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8
Dulliau Talu
Defnyddio'r cyflwyniad i addysgu disgyblion am amrywiaeth o ffyrdd y gallwn dalu am bethau.
Gweld adnodd
Ages 7 & 8

Lawrlwytho Adnoddau Sgiliau